This snapshot, taken on 06/06/2009, shows web content selected for preservation by The National Archives. External links, forms and search boxes may not work in archived websites.

Pwysedd gwaed

Pwysedd gwaed

Gall bwyta gormod o halen godi dy bwysedd gwaed.

Gall pobl o bob oed ddatblygu pwysedd gwaed uchel. Yn Lloegr, mae gan draean o bobl (31.7% o ddynion a 29.5% o fenywod) bwysedd gwaed uchel.

Y llofrudd cudd
Mae weithiau’n cael ei alw’n ‘llofrudd cudd’, oherwydd nid oes symptomau gan y rhan fwyaf o bobl sydd â phwysedd gwaed uchel ac felly nid ydyn nhw’n gwybod eu bod yn dioddef ohono.

Mae pobl sydd â phwysedd gwaed uchel deirgwaith yn fwy tebygol o ddatblygu clefyd y galon neu gael strôc na phobl sydd â phwysedd gwaed normal. Ac maent ddwywaith yn fwy tebygol o farw o ganlyniad i’r clefydau hyn. Os nad yw pwysedd gwaed uchel yn cael ei drin, gall arwain hefyd at fethiant yr arennau a niwed i’r llygaid.

Mae bwyta llai o halen yn gallu lleihau pwysedd gwaed a lleihau’r risg o glefyd y galon a strôc.

Beth yw pwysedd gwaed?
Pwysedd gwaed yw grym y gwaed yn pwyso yn erbyn waliau’r rhydwelïau, wrth i’r galon bwmpio gwaed o amgylch y corff.

Mae’r galon yn curo drwy gywasgu ac ymlacio. Bob tro mae’r galon yn cywasgu mae’n pwmpio gwaed ar hyd y corff. Dyma yw curiad calon. Mae’r galon yn gorffwys ychydig rhwng bob curiad.

Mae pwysedd y gwaed sy’n llifo drwy dy rydwelïau yn uwch pan mae dy galon yn cywasgu na phan mae’n ymlacio. Felly pan mae meddyg neu nyrs yn cymryd dy bwysedd gwaed, maen nhw’n edrych ar ddau fesuriad gwahanol.

  • Pwysedd systolig yw’r pwysedd pan mae’r galon yn cywasgu ac yn pwmpio gwaed o amgylch y corff.
  • Pwysedd diastolig yw’r pwysedd pan mae’r galon yn gorffwys. Mae hwn yn is na’r pwysedd systolig.

Mesurir pwysedd gwaed mewn milimetrau o fercwri (mmHg).

Pan mae rhywun yn mesur dy bwysedd gwaed, maen nhw’n rhoi un ffigur ar gyfer pwysedd systolig ac un arall ar gyfer dy bwysedd diastolig. Er enghraifft, os oes gennyt bwysedd systolig o 130mmHg a phwysedd diastolig o 70mmHg, bydden nhw fel arfer yn dweud bod dy bwysedd gwaed yn ‘130 dros 70’.

Beth sy’n achosi pwysedd gwaed uchel?
Mae nifer o bethau yn cynyddu’r perygl o ddatblygu pwysedd gwaed uchel, gan gynnwys:

  • bwyta gormod o halen
  • bod dros bwysau
  • peidio â gwneud gweithgarwch corfforol
  • yfed gormod o alcohol

Rwyt ti’n fwy tebygol o ddatblygu pwysedd gwaed uchel os yw un o dy rieni neu’r ddau ohonyn nhw yn (neu wedi) dioddef o bwysedd gwaed uchel.

Sut ydw i’n gwybod os oes gen i bwysedd gwaed uchel?
Does gan y rhan fwyaf o bobl sy’n dioddef o bwysedd gwaed uchel ddim symptomau. Yr unig ffordd o wybod yw mesur dy bwysedd gwaed.

Mae pwysedd gwaed pawb yn mynd i fyny ac i lawr ar wahanol amseroedd o’r dydd. Gall fod yn uwch pan fyddi di’n bryderus neu dan bwysau. Fel arfer bydd dy feddyg neu nyrs yn cymryd dy bwysedd gwaed sawl gwaith cyn penderfynu a oes gen ti bwysedd gwaed uchel. Yna gall dy feddyg ysgrifennu presgripsiwn ar gyfer meddyginiaeth i leihau dy bwysedd gwaed.

Nid oes trothwy penodol rhwng pwysedd gwaed normal ac uchel. Ond fel arfer ystyrir pwysedd o dan 140/90mmHg yn normal ac, yn ddelfrydol, dylai fod yn 120/80mmHg neu’n is er mwyn lleihau’r perygl o glefyd y galon neu strôc.

Mae Halen yn dy fwyd yn rhoi rhagor o wybodaeth am ba fwydydd sy’n uchel mewn halen.

Mae gwefan y Gymdeithas Pwysedd Gwaed yn rhoi rhagor o wybodaeth am bwysedd gwaed.