This snapshot taken on 10/08/2009, shows web content selected for preservation by The National Archives. External links, forms and search boxes may not work in archived websites.

Clefyd y galon

Clefyd y galon

Gall bwyta gormod o halen godi dy bwysedd gwaed, sy’n treblu’r perygl o ddatblygu clefyd y galon, waeth beth yw dy oedran.

Beth yw clefyd y galon?Defnyddir y term ‘clefyd y galon’ i ddisgrifio sawl cyflwr. Dau o’r termau mwyaf cyffredin yw clefyd coronaidd y galon a chlefyd cardiofasgwlaidd.

Clefyd coronaidd y galon
Achosir clefyd coronaidd y galon pan mae’r rhydwelïau coronaidd, sy’n cyflenwi gwaed i’r galon, yn culhau wrth i haenau o fraster ddatblygu ynddyn nhw. Atherosglerosis yw’r enw am hyn.

Dros amser gall y rhydweli fynd mor gul fel na all digon o waed gyrraedd y galon. Golyga hyn nad yw cyhyr y galon yn cael yr ocsigen sydd ei angen arno. Angina yw’r enw am hyn. Daw poen angina pan mae cyhyr y galon yn brin o ocsigen.

Os yw’r rhydweli sydd wedi culhau yn cael ei dagu gan glot gwaed, mae hyn yn achosi trawiad ar y galon.

Clefyd cardiofasgwlaidd
Mae clefyd cardiofasgwlaidd yn cynnwys holl glefydau’r galon a phibelli gwaed, gan gynnwys clefyd coronaidd y galon, methiant y galon a strôc. Mae clefyd cardiofasgwlaidd yn achosi bron i 238,000 o farwolaethau bob blwyddyn yn y DU. Mae mwy na thraean (39%) o bobl yn marw o glefyd cardiofasgwlaidd.

Mae yna nifer o bethau sy’n cynyddu’r perygl o ddatblygu clefyd y galon, gan gynnwys:

  • pwysedd gwaed uchel
  • ysmygu
  • lefelau uchel o golesterol
  • peidio â gwneud gweithgarwch corfforol
  • bod dros bwysau
  • diabetes

Pam mae pwysedd gwaed uchel yn cynyddu’r perygl o ddatblygu clefyd y galon?
Gall pwysedd gwaed uchel gynyddu’r perygl o ddatblygu clefyd y galon mewn sawl ffordd.

Gall wneud niwed i’r galon gan fod y pwysedd ychwanegol yn achosi i’r galon orfod gweithio’n galetach i bwmpio gwaed o amgylch y corff. Gall y niwed hwn arwain at fethiant y galon a chynyddu’r perygl o gael trawiad ar y galon.

Mae pwysedd gwaed uchel hefyd yn cynyddu’r perygl o ddatblygu atherosglerosis, lle mae haenau o fraster yn datblygu yn y rhydwelïau. O ganlyniad, mae’r pibelli gwaed yn culhau ac yn caledu, sy’n gallu codi pwysedd gwaed eto a chynyddu’r perygl o gael trawiad ar y galon.

Mae lleihau dy bwysedd gwaed yn lleihau’r perygl o ddatblygu clefyd y galon, hyd yn oed os nad oes gen ti broblemau gyda dy bwysedd gwaed. Mae tystiolaeth yn dangos bod bwyta llai o halen yn gallu lleihau pwysedd gwaed, yn enwedig fel rhan o ddeiet iach sy’n cynnwys digonedd o ffrwythau a llysiau.

Mae mwy o wybodaeth am fwydydd sy’n uchel mewn halen yn Halen cudd.

Mae gwefan Sefydliad Prydeinig y Galon yn rhoi rhagor o wybodaeth am glefyd y galon.