This snapshot, taken on 06/06/2009, shows web content selected for preservation by The National Archives. External links, forms and search boxes may not work in archived websites.

Strôc

Strôc

Gall bwyta gormod o halen godi dy bwysedd gwaed, sy’n treblu’r perygl o gael strôc, beth bynnag dy oedran.

Mae mwy na 130,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr yn dioddef eu strôc gyntaf bob blwyddyn. Mae tua 10,000 o’r rhain o dan yr oedran ymddeol.

Beth sy’n achosi strôc?
Mae strôc yn effeithio ar y pibelli gwaed sy’n cario gwaed i’r ymennydd. Mae strôc yn digwydd pan mae un o’r pibelli gwaed hyn yn rhwygo neu’n cael ei dagu gan glot gwaed. Pan fydd hyn yn digwydd, nid yw’r rhan o’r ymennydd y mae’r bibell waed yn ei chyflenwi yn derbyn digon o ocsigen a chaiff ei niweidio.

Mae strôc yn effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol, yn dibynnu ar ba ran o’r ymennydd sydd wedi’i niweidio. Mae’n effeithio ar y rhan o’r corff sydd wedi’i gysylltu â’r rhan o’r ymennydd sydd wedi’i niweidio. Yn aml, mae strôc yn achosi parlys, ar un ochr y corff fel rheol.

Mae lleihau dy bwysedd gwaed yn lleihau’r perygl o gael strôc, hyd yn oed os yw dy bwysedd gwaed yn iawn eisoes. Mae tystiolaeth yn dangos bod bwyta llai o halen yn gallu lleihau pwysedd gwaed, yn enwedig fel rhan o ddeiet iach sy’n cynnwys digonedd o ffrwythau a llysiau.

Mae mwy am ba fwydydd sy’n uchel mewn halen yn Halen cudd.

Mae gwefan y Gymdeithas Strôc yn rhoi mwy o wybodaeth am strôc.