This snapshot, taken on
27/09/2010
, shows web content acquired for preservation by The National Archives. External links, forms and search may not work in archived websites and contact details are likely to be out of date.
 
 
The UK Government Web Archive does not use cookies but some may be left in your browser from archived websites.
Text only

Ceisio beichiogi


woman Mae deiet iach yn bwysig i bawb, ar unrhyw adeg o'u bywydau, ond yn arbennig pan wyt ti'n ceisio beichiogi.


Beth i’w fwyta


cereal muesli Pan wyt ti'n ceisio beichiogi, ac yn wir yn gyffredinol, fe ddylet ti geisio bwyta deiet iach ac amrywiol.

Mae hyn yn golygu ceisio bwyta amrywiaeth o fwydydd, gan gynnwys:
  • digonedd o ffrwythau a llysiau (rhai ffres, rhai wedi'u rhewi, rhai mewn tun, rhai wedi'u sychu neu wydraid o sudd). Ceisia fwyta o leiaf pum dogn y dydd
  • digonedd o fwydydd â starts, fel bara, pasta, reis a thatws – ceisia ddewis opsiynau grawn cyflawn
  • protein, fel cig heb lawer o fraster a chyw iâr, pysgod, wyau a chodlysiau (ffa a chorbys). Bydd y bwydydd hyn hefyd yn rhoi haearn i ti (gweler isod)
  • ceisia fwyta pysgod o leiaf ddwywaith yr wythnos, gan gynnwys rhywfaint o bysgod olewog. Ond paid â chael mwy na dau ddogn o bysgod olewog yr wythnos. Mae hyn yn cynnwys tiwna ffres (nid tiwna o dun – nid yw hwn yn cyfrif fel pysgodyn olewog), mecryll, sardinau a brithyll
  • cynnyrch llaeth fel llaeth, caws ac iogwrt, sy'n cynnwys calsiwm
Fe ddylet ti gwtogi ar fwydydd sy'n cynnwys braster a siwgr, fel cacennau a bisgedi. Bydd hyn yn dy helpu i reoli dy bwysau.

A chofia bod digon o fyrbrydau iach y gelli eu dewis, gan gynnwys brechdanau neu fara pitta wedi'u llenwi â chyw iâr, caws colfran neu ham heb lawer o fraster; iogwrt braster isel; cawl llysiau a ffa neu ffrwythau, gan gynnwys ffrwythau ffres, rhai mewn tun yn eu sudd neu ffrwythau wedi'u sychu fel rhesins neu fricyll.

Gall merched beichiog ddioddef o brinder haearn, felly gwna'n siŵr dy fod yn cael digonedd o fwyd sy'n cynnwys llawer o haearn er mwyn sicrhau dy fod yn cael digon. Ceisia gael rhywfaint o fwyd neu ddiod sy'n cynnwys fitamin C, fel ffrwythau neu lysiau, neu wydraid o sudd ffrwythau, gydag unrhyw brydau sy'n cynnwys llawer o haearn, er mwyn helpu dy gorff i amsugno'r haearn.

Ffynonellau da o haearn:
  • cig coch
  • codlysiau
  • ffrwythau wedi'u sychu
  • bara
  • llysiau gwyrdd
  • grawnfwydydd brecwast cyfnerthedig

Beth i’w osgoi


Gwna'n siŵr nad wyt ti'n cael gormod o fitamin A. Mae hyn yn golygu y dylet ti osgoi bwyta afu a chynhyrchion afu fel pâté, ac osgoi cymryd atchwanegiadau sy'n cynnwys fitamin A neu olewau afu pysgod (sy'n cynnwys lefelau uchel o fitamin A).

Mae angen rhywfaint o fitamin A arnat ti, ond os fyddwi di'n cael gormod pan rwyt ti'n feichiog, fe allai hyn wneud niwed i'r babi cyn ei eni. Gofynna i dy feddyg teulu neu dy fydwraig os hoffet ti gael mwy o wybodaeth.

Fe ddylet ti hefyd osgoi bwyta siarc, cleddbysgodyn a marlyn, a chyfyngu ar faint o diwna rwyt ti'n ei fwyta.

Paid â bwyta mwy na dwy stecen tiwna yr wythnos (yn pwyso tua 140g wedi'u coginio neu 170g yn amrwd) neu bedwar can canolig eu maint o diwna yr wythnos (gyda phwysau wedi'i ddraenio o tua 140g y can).

Mae hyn oherwydd lefelau'r mercwri yn y pysgod hyn. Ar lefelau uchel, gall mercwri wneud niwed i'r system nerfol sy'n datblygu mewn babi cyn ei eni.

A ddylwn i osgoi bwyta pysgnau?

peanuts Nid yw’n glir o edrych ar y dystiolaeth ddiweddaraf a yw bwyta pysgnau (neu osgoi bwyta pysgnau) pan wyt ti’n feichiog yn effeithio ar p’un a yw dy blentyn yn datblygu alergedd iddynt. Felly os wyt ti am fwyta pysgnau neu fwyd sy’n eu cynnwys (megis menyn pysgnau) wrth geisio beichiogi, gelli ddewis gwneud hynny, oni bai fod gen ti alergedd iddynt.

Efallai dy fod wedi clywed bod rhai menywod beichiog neu fenywod sy’n bwydo ar y fron yn dewis peidio â bwyta pysgnau. Y rheswm am hyn yw bod y Llywodraeth yn arfer cynghori menywod i osgoi bwyta pysgnau yn ystod y cyfnodau hyn os oedd gan unrhyw un yn nheulu agos y plentyn alergedd, megis asthma, ecsema, clefyd y gwair, alergedd bwyd neu fathau eraill o alergedd. Rhoddwyd y cyngor hwn i fenywod rhag ofn bod bwyta pysgnau pan yn feichiog neu’n bwydo ar y fron yn cynyddu’r perygl bod y baban yn mynd i ddatblygu alergedd i bysgnau. Ond newidiwyd y cyngor hwn ym mis Awst 2009 gan nad yw’n glir o edrych ar y gwaith ymchwil diweddaraf a yw bwyta pysgnau ar yr adegau hyn yn effeithio ar p’un a yw dy blentyn yn datblygu alergedd i bysgnau.

Fitaminau


asparagus bunch Pan yr wyt ti'n ceisio beichiogi, dylet ti gymryd 400 microgram (mcg) o atchwanegiad asid ffolig bob dydd, a hynny o'r cyfnod yr wyt ti'n rhoi'r gorau i ddefnyddio dulliau atal cenhedlu hyd at ddeuddegfed wythnos y beichiogrwydd.

Mae'r fitamin hwn yn helpu i atal diffygion yn y tiwb niwral, fel spina bifida. Os hoffet ti gymryd dy asid ffolig mewn atchwanegiad sy'n cynnwys fitaminau eraill, gwna'n siŵr ei fod yn cynnwys 400mcg o asid ffolig.

Fe ddylet ti hefyd fwyta bwydydd sy'n cynnwys ffolad – y ffurf naturiol ar asid ffolig – fel llysiau gwyrdd a reis brown yn ogystal â bara a grawnfwydydd brecwast cyfnerthedig.

Os wyt ti eisoes wedi cael beichiogrwydd lle'r oedd y plentyn yn dioddef o ddiffyg i'r tiwb niwral, neu os oes gen ti ddiabetes, dylet gymryd dos uwch o asid ffolig - 5 miligram (mg) y dydd - am yr un cyfnod o amser, a gofynna i dy feddyg teulu am ragor o gyngor.

Pan yr wyt ti'n ceisio beichiogi, ac yn ystod beichiogrwydd, cofia osgoi cymryd atchwanegiadau sy'n cynnwys fitamin A neu olewau iau/afu pysgod (sydd hefyd yn cynnwys lefelau uchel o fitamin A).

Alcohol


wine red Pan wyt ti'n ceisio beichiogi, mae'n well rhoi'r gorau i yfed alcohol yn gyfan gwbl. Ond os wyt ti'n yfed, paid â chael mwy nag 1 neu 2 uned o alcohol, unwaith neu ddwywaith yr wythnos, a phaid â meddwi.

Mae uned gyfwerth â hanner peint o gwrw, lager neu seidr (o gryfder safonol), neu fesur tafarn o wirod. Mae gwydraid o win tua 2 uned ac mae alcopops tua 1.5 uned.

Mwy o wybodaeth


Os hoffet ti gael rhagor o wybodaeth am gynllunio beichiogrwydd, siarada â'th feddyg teulu neu dy ymwelydd iechyd, neu cysyllta â'r uned hybu iechyd leol.