Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2005
Wednesday 30 March 2005
Mae'r llythyr hwn yn gofyn am eich sylwadau ar y fersiwn drafft o Rheoliadau Porthiant (Cymru) ar gyfansoddiad a marchnata porthiant. Mae'r Rheoliadau hyn yn cyfuno Rheoliadau Porthiant 2000, a ddiwygiwyd sawl tro, ac yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad 1831/2003 y CE ar adchwanegion porthiant.
Dylech anfon eich holl sylwadau at:
Trish Davis
Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
Llawr 11, Tŷ Southgate
Wood Street
Caerdydd
CF101EW
Ffôn: 029 2067 8959
Ffacs: 029 2067 8918
E-bost: trish.davis@foodstandards.gsi.gov.uk
Gofynnir i chi ymateb erbyn: 30 Mehefin 2005
Manylion yr ymgynghoriad
Cyfuno
Ers eu cyflwyno ym mis Medi 2000, mae Rheoliadau Porthiant 2000 wedi'u diwygio sawl gwaith. Mae'r ddeddfwriaeth ganlynol yn cael ei symleiddio a'i chyfuno yn Rheoliadau Porthiant (Cymru) drafft 2005:
(a) Rheoliadau Porthiant 2000 (OS 2000/2481);
(b) Rheoliadau Porthiant a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2001 (OS 2001/3461 (W.280));
(c) Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2002 (OS 2002/1797 (W.172));
(d) Rheoliadau Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2003 (OS 2003/989 (W.138));
(e) Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003 (OS 2003/1850 (W.200));
(f) Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2003 (OS 2003/3119 (W.297));
(g) Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2004 (OS 2004/1749 (W.186)); a
(h) Rheoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2004 (OS 2004/3091 (W.265)).
Rheoliad 1831/2003 y CE
Ar yr un pryd, mae'r Rheoliadau'n ystyried darpariaethau Rheoliad 1831/2003 y CE ar adchwanegion i'w defnyddio mewn bwydydd i anifeiliaid.
Ar hyn o bryd, mae awdurdodiadau adchwanegion porthiant yn destun darpariaethau Cyfarwyddeb 70/524/EEC, a ddiwygiwyd ddiwethaf yn sylweddol yng Nghyfarwyddeb 96/51/EC. Mae darpariaethau'r Cyfarwyddebau hyn wedi'u gweithredu yn Rheoliadau Porthiant 2000 (fel y'u diwygiwyd). Un o'r prif egwyddorion yw mai dim ond adchwanegion (e.e. fitaminau ac elfennau hybrin) o restr awdurdodedig y gellir eu defnyddio mewn porthiant yn unol â'r amodau defnyddio penodedig.
Mae Rheoliad 1831/2003 y CE yn newid y gweithdrefnau ar gyfer awdurdodi adchwanegion. Yn y gorffennol, roedd arbenigwyr yr Aelod-Wladwriaethau a'r Comisiwn yn cynnal asesiad manwl; yr Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd (EFSA) fydd yn cynnal yr asesiad hwn nawr. Ymysg pethau eraill, bydd tua 350 o awdurdodiadau adchwanegion porthiant cyfredol yn cael eu hail-werthuso a chyfryngau silwair yn dod dan gwmpas y mesurau rheoli. Mae yna ofynion newydd hefyd ar gyfer labelu adchwanegion porthiant a rhag-gymysgeddau.
Mae darpariaethau Rheoliadau'r CE yn uniongyrchol weithredol ac ni ellir eu hailadrodd mewn deddfwriaeth genedlaethol. Fodd bynnag, mae angen newid y Rheoliadau Porthiant i ddileu darpariaethau sydd wedi dyddio yng Nghyfarwyddebau 70/524/EEC a 96/51/EC, i gysylltu Rheoliad 1831/2003 â phwerau gorfodi cenedlaethol, a gwneud newidiadau canlyniadol hefyd.
Mae Rheoliad 1831/2003 y CE hefyd yn berthnasol i adchwanegion porthiant 'meddyginiaethol' (hyrwyddwyr twf gwrthfiotig, cocsidiostatwyr a histomonstatwyr yn bennaf). Mae'r darpariaethau hyn yn destun Rheoliadau ar wahân i'w llunio gan Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol yr Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra).
Gwybodaeth Arall
Mae gwybodaeth bellach am brif ddarpariaethau Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2005, yn cynnwys newidiadau yn sgil mabwysiadu Rheoliad 1831/2003 a newidiadau pwysig eraill o'r cyfuniad blaenorol yn 2000, wedi’i nodi y llythyr hwn. Mae un newid yn dileu hen ddarpariaethau sy’n ymwneud â’r gofrestr marciau, gan fod y darpariaethau cenedlaethol hyn yn anghyson â deddfwriaeth porthiant y CE ar restru cynhwysion porthiant cyfansawdd.
Bydd Rheoliadau cyfatebol ar wahân yn cael eu paratoi ar gyfer Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a byddant yn destun ymgynghoriadau unigol.
Arfarniad Rheoliadol
Gan fod holl ddarpariaethau'r ddeddfwriaeth a restrwyd ym mharagraff 3 uchod yn weithredol ar hyn o bryd, ystyrir nad oes angen paratoi Arfarniad Rheoliadol (RA) i gyfuno'r mesurau hyn. Yn achos Rheoliad 1831/2003 y CE, fodd bynnag, rydym wedi llunio'r RA rhannol, sy'n cynnwys ein dealltwriaeth ni o oblygiadau gweithredu'r mesur. Paratowyd fersiynau cynharach o'r asesiad hwn yn ystod y trafodaethau ar y mesur a'i ddosbarthu i randdeiliaid roi sylwadau ar yr effaith debygol. Fodd bynnag, byddem yn gwerthfawrogi unrhyw ddiweddariad o'r wybodaeth a ddarparwyd yr adeg honno ac unrhyw sylwadau pellach lle bo'n briodol. Bydd copi Cymraeg o'r Arfarniad Rheoliadol ar gael ar gais, cysylltwch a Trish Davis (manylion cyswllt ar dudalen 1)
Wrth ystyried y Rheoliadau cyfunedig drafft, byddai'n ddefnyddiol i randdeiliaid gyfeirio at Reoliad 1831/2003 y CE, a gyhoeddwyd yn yr Official Journal of the European Union Rhif L268 ar 18 Hydref 2003. Mae mynegai i'r Official Journal ar wefan y Comisiwn. Gellir dadlwytho copi o Reoliadau Porthiant 2000 o wefan y Llyfrfa.
Fel y crybwyllwyd eisoes, mae darpariaethau Rheoliad 1831/2003 y CE ar adchwanegion porthiant 'meddyginiaethol' yn destun Rheoliadau ar wahân i'w llunio gan y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol (VMD). Mae'r Arfarniad Rheoliadol felly'n cynnwys gwybodaeth am ddarpariaethau ar gyfer adchwanegion porthiant anfeddygol yn unig.
Sut i Ymateb
Gwahoddir rhanddeiliaid i roi sylwadau cyffredinol ar y Rheoliadau drafft, yr Arfarniad Rheoliadol drafft a'r materion a godwyd yn yr ymgynghoriad hwn. Yn arbennig, hoffem gael eich ymateb i'r pwyntiau canlynol:
a) Pa fanteision sydd yn eich tyb chi o weithredu'r darpariaethau newydd ar reoli adchwanegion porthiant yn Rheoliad 1831/2003 y CE? (gweler adran 4 yr RA) Lle bo'n bosib, mesurwch y manteision hyn.
b) Beth yw'r costau amcangyfrifiedig o weithredu darpariaethau newydd Rheoliad 1831/2003 y CE, yn arbennig mewn perthynas
darparu coflenni i ail-werthuso adchwanegion porthiant ac ar gyfer cyfryngwyr silwair (gweler adran 5 yr RA)?
c) Beth yw eich barn ar effaith materion sy'n gysylltiedig â chostau a manteision peidio â gweithredu? Pan fo modd eu mesur mewn termau economaidd rhowch wybod i ni.
Gwybodaeth bellach
Paratowyd yr ymgynghoriad hwn yn unol â Chod Ymarfer Swyddfa'r Cabinet ar Ymgynghori Ysgrifenedig. Mae Maen Prawf 6 Cod Ymarfer Swyddfa'r Cabinet yn datgan bod yn rhaid i ymgynghoriad ddilyn arferion gorau o safbwynt gwell rheoleiddio, sy'n cynnwys cynnal Asesiad Effaith Reoleiddiol.
Hoffem gael eich sylwadau ar yr ymgynghoriad hwn ac adborth cyffredinol ar y pecyn ymgynghori a'r broses ymgynghori gyffredinol. Os hoffech ein helpu i wella ansawdd ymgynghoriadau'r dyfodol, mae croeso i chi roi eich barn trwy ddefnyddio holiadur adborth yr ymgynghoriad.
Cyfrinachedd ymatebion a chyhoeddi data personol
Yn unol ag egwyddor yr ASB o weithredu'n agored, bydd ein Canolfan Wybodaeth yn Aviation House yn cadw copi o'r ymgynghoriad cyflawn. Bydd yr ASB yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion hefyd, a allai gynnwys data personol, fel eich enw a'ch cyfeiriad llawn. Dim ond os ceir ceisiadau i weld yr ymatebion cyflawn i’r ymgynghoriad y bydd unrhyw ddata personol arall yn cael ei ddatgelu. Os nad ydych chi am i ni ryddhau'r wybodaeth hon, dylech lenwi'r Ffurflen Cyhoeddi Data Personol a'i dychwelyd atom. Nid yw dychwelyd y ffurflen hon yn golygu y byddwn yn trin eich ymateb i'r ymgynghoriad yn gyfrinachol, dim ond eich data personol.
Cyhoeddi data personol (Word)
Cyhoeddi data personol (pdf)
Cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion
Rydym yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad o fewn tri mis iddo ddod i ben a darparu dolen ato o'r dudalen hon.
Os nad yw'r crynodeb yn ymddangos ar ôl tri mis, cysylltwch â'r sawl a oedd yn gyfrifol am yr ymgynghoriad gwreiddiol. Fel arall, cysylltwch â Cydgysylltydd Ymgynghoriadau'r ASB
E-bost: consultationcoordinator@foodstandards.gsi.gov.uk
