Switch to English

Last updated on 11 Gorffennaf 2011

Diweddariad ar yr achosion o E.coli O104

e.coli

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cadarnhau bod sypiau penodol o had ffenigrig o’r Aifft, sydd wedi’u cysylltu ag achosion o E.coli O104 yn yr Almaen a Ffrainc yn ddiweddar, bellach wedi’u tynnu oddi ar y farchnad.

Cafodd y sypiau o had ffenigrig eu cyflenwi o’r Aifft rhwng 2009 a 2011. Yr unig fusnes yn y DU yr ydym yn gwybod ei fod wedi derbyn yr had ffenigrig dan sylw yw’r cwmni sydd wedi’i gysylltu â’r achosion yn Ffrainc, a hynny drwy law'r cwmni o’r Almaen a fewnforiodd y swp dan sylw. Mae’r cwmni eisoes wedi tynnu’r rhain oddi ar y farchnad ac mae samplau’n cael eu profi am E.coli O104:H4 ar hyn o bryd.

Mae’r cynhyrchion sy’n cael eu tynnu’n ôl, a hynny ar draws Ewrop, yn cynnwys had ffenigrig i’w hegino ond nid yw’n cynnwys sbeisys mâl ar gyfer coginio na chynhyrchion sy’n cynnwys ffenigrig fel cynhwysyn.

At hynny, mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi gweithredu mesurau rhagofalus ychwanegol drwy gyflwyno gwaharddiad dros dro ar fewnforio had ffenigrig a had, ffa ac egin penodol eraill o’r Aifft. Mae’r gwaharddiad hwn ar waith tan 31 Hydref 2011.

Penderfynodd yr UE ar y mesurau hyn yn dilyn adroddiad Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) ar ffynhonnell posibl yr achosion diweddar o E.coli O104 yn yr Almaen a Ffrainc (gweler y ddolen isod). Yn yr adroddiad, mae EFSA yn casglu mai swp o had ffenigrig, a gyflenwyd gan gwmni o’r Aifft i gwmni o’r Almaen yn wreiddiol, yw’r cysylltiad mwyaf tebygol rhwng yr achosion yn y ddwy wlad.

Fodd bynnag, nid yw’r dystiolaeth sy’n cysylltu’r achosion yn yr Almaen a Ffrainc â’r swp o had ffenigrig yn ddiffiniol ac mae ymchwiliadau yn parhau ym mhob un o wledydd Ewrop.

Yn ôl EFSA, gan nad oes modd atal y perygl o groeshalogi rhwng gwahanol had, nid yw ei gyngor i ddefnyddwyr wedi newid. Mae EFSA yn cynghori defnyddwyr i beidio â bwyta had wedi’u hegino oni bai eu bod wedi’u coginio’n drylwyr.
Nid yw cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi newid ychwaith. Ni ddylid bwyta had wedi’u hegino oni bai eu bod wedi’u coginio’n drwyadl nes eu bod yn chwilboeth drwyddynt. Ni ddylid eu bwyta’n amrwd. Dylid glanhau offer a ddefnyddiwyd ar gyfer egino had yn drwyadl ar ôl ei ddefnyddio. Dylai pobl olchi eu dwylo cyn ac ar ôl trin had i’w plannu neu eu hegino ac wrth baratoi bwyd. Mae’r cyngor yn cael ei adolygu’n rheolaidd.