Switch to English

Last updated on 30 Medi 2011

Gwella mynediad at ddata cyhoeddus yng Nghymru

About us forks fsa logo

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru wedi croesawu adroddiad Fforwm Rheoleiddwyr Cymru ar sut i ddefnyddio’r wybodaeth y mae pob rheoleiddiwr yn ei gasglu yn well.

Lluniwyd yr adroddiad er mwyn gwella'r broses o gasglu a defnyddio gwybodaeth a'i gwneud yn fwy effeithlon ac effeithiol, gan gynnig tryloywder i ddefnyddwyr a busnesau yng Nghymru. Mae'r prosiect yn archwilio sut i leihau'r baich gweinyddol ar awdurdodau lleol o ran adrodd ar ddata; sut i fabwysiadu prosesau rhannu data effeithiol ar draws y system reoleiddiol a sut i sicrhau bod data'n cael ei ddefnyddio yn fwy tryloyw.

Meddai Steve Wearne, Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru: “Fel rheoleiddiwr cenedlaethol ac awdurdod sy’n atebol i’r Undeb Ewropeaidd am ddiogelwch y bwyd sy’n cael ei fwyta gan y cyhoedd yng Nghymru, mae gwybodaeth am berfformiad rheoleiddiol yn hanfodol. Rydym felly’n croesawu’r adroddiad hwn a’r pwyslais y mae’n ei roi ar sicrhau bod rheoleiddwyr, ar lefel genedlaethol a lleol, yn cydweithio’n effeithiol.”

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn aelod o Fforwm Rheoleiddwyr Cymru, menter a sefydlwyd ar y cyd gan y Swyddfa Gwell Rheoleiddio Leol (LBRO) a Llywodraeth Cymru. Mae’r fenter hefyd yn cynnwys rheoleiddwyr lleol a chenedlaethol eraill.

Mae manylion yr adroddiad ar gael drwy’r ddolen isod.